Cafodd yr Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley ei heclo gan nyrsys heddiw are ôl iddo honni bod lefelau staffio yn y GIG wedi cynyddu.

Roedd Andrew Lansley yn annerch cynhadledd flynyddol y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn Harrogate.

Daeth ei anerchiad wrth i astudiaeth gael ei gyhoeddi gan  y RCN yn rhybuddio bod 60,000 o swyddi yn y GIG yn y fantol, gan gynnwys nifer o nyrsys, oherwydd toriadau gwariant, a bod hanner y swyddi eisoes wedi diflannu.

Roedd y nyrsys wedi chwerthin pan ddywedodd Lansley y dylai nyrsys ddweud wrth eu penaethiaid os nad oedd lefelau staffio yn ddiogel.

Roedd rhai wedi ei alw’n “gelwyddgi” pan ddywedodd bod lefelau staffio wedi cynyddu ers iddo ddod yn Ysgrifennydd Iechyd.