Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond gyhoeddi tro pedol bore ma ynglŷn â’r math o jet ryfel mae’r Llywodraeth am ei gael ar gyfer y Llynges.

Y disgwyl yw y bydd y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw am ddewis y jet ryfel F-35, sef  y math o jet roedd y Llywodraeth Lafur wedi bwriadu ei gael.

Roedd y Llywodraeth Glymblaid wedi dweud yn wreiddiol ei bod am ddewis yr F-35C gan ddadlau ei bod yn well na’r F-35B.

Ond mae’n ymddangos bod y gost o roi’r offer angenrheidiol ar y jet ryfel wedi codi o £400 miliwn i £2 biliwn.

Fe fydd y tro pedol yn embaras i’r Prif Weinidog oedd wedi beirniadu penderfyniad Llafur i ddewis y jet ryfel arall.