Llyfrgell Llanfairfechan, sydd mewn peryg o gau
Mae Cymdeithas Fawr y Prif Weinidog, David Cameron, yn cael ei danseilio gan doriadau gwario’r llywodraeth, yn ôl arweinydd un o elusennau mwyaf Prydain.

Bydd y Fonesig Elisabeth Hoodless yn ymddeol cyn hir ar ôl arwain elusen Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol ers 40 mlynedd.

Dywedodd fod toriadau’r llywodraeth mewn perygl o “ddinistrio” y llu o wirfoddolwyr sydd yng Ngwledydd Prydain.

Roedd y Prif Weinidog wedi goramcangyfrif faint o gyfrifoldeb oedd gwirfoddolwyr yn fodlon ei ysgwyddo, meddai.

Dywedodd Elisabeth Hoodless wrth bapur newydd y Times bod toriadau gwario Llywodraeth San Steffan yn golygu fod llai o gyfle i bobol wirfoddoli.

“Ydi un llaw yn gwybod beth mae’r llaw arall yn ei wneud? Mae angen i ni arbed arian ond mae yna ffyrdd gwell o wneud hynny heb ddinistrio’r fyddin o wirfoddolwyr sydd gyda ni,” meddai.

“Unwaith ydych chi’n cau llyfrgell does yna ddim lle arall i wirfoddolwyr gynnig helpu.

“Does bron i neb eisiau gwirfoddoli i gynnal llyfrgell eu hunain. Mae’r rhan fwyaf eisiau gwybod fod arbenigwr yn yr adeilad.

“Maen nhw’n ddigon hapus i roi llyfrau ar y silffoedd, ond dydyn nhw ddim eisiau cymryd cyfrifoldeb dros weinyddu’r lle.”

Ymateb

Dywedodd y gweinidog cymdeithas sifil, Nick Hurd, wrth raglen Today y byddai yna fuddsoddiad er mwyn annog pobol i wirfoddoli.

“Mae gan fy adran i £470 miliwn i’w wario dros y pedair blynedd nesaf, ac rydyn ni wedi rhoi £100 miliwn o’r neilltu ar gyfer elusennau sydd mewn perygl o gau,” meddai.