James Murdoch, Cadeirydd BSkyB
Mae adroddiadau y gallai James Murdoch gamu i lawr o’i swydd yn Gadeirydd ar y darlledwr lloeren BSkyB yn y dyddiau, os nad yr oriau, nesa’.

Mae mab y teicŵn cyfryngol, Rupert Murdoch, wedi dod dan bwysau cynyddol i ildio’r awenau yn sgil y sgandal hacio ffonau yn News International yn ddiweddar.

Mae sôn y gallai ei ymddiswyddiad ddod mor gynnar â’r prynhawn yma, yn ôl Sky News.

Daw’r sïon wythnosau’n unig cyn i Bwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin gyhoeddi eu hadroddiad ar ddulliau gohebu’r News of the World.

Roedd hefyd disgwyl y byddai James Murdoch a’i dad, sy’n brif weithredwr gweithredu News Corporation, yn cael eu galw i roi tystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson yn ddiweddarach y mis hwn.

Byddai ymddiswyddiad gan James Murdoch yn mynd yn groes i’r gefnogaeth a gafodd gan gyfranddalwyr BSkyB yn ôl ym mis Tachwedd, pan gafodd ei ail-ethol yn Gadeirydd ar y cwmni yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol – er gwaetha’ pryderon rhai o brif fuddsoddwyr y cwmni.

Mae disgwyl mai Nick Ferguson, dirprwy gadeirwydd y cwmni, fydd yn cymryd yr awenau.