Mae’r cwmni brechdanau Pret A Manger wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu creu 550 o swyddi ym Mhrydain.

Mae’r swyddi newydd yn rhan o gynllun ehangu’r cwmni a agorodd ei siop gyntaf yn Llundain yn 1986.

Erbyn hyn, mae’r cwmni yn cyflogi bron i 5,000 o bobl ym Mhrydain. Mae ganddyn nhw 286 siop ac mi wnaethon nhw elw o £52.4 miliwn y llynedd.

Mae’r cwmni wedi dweud y byddan nhw’n agor 24 o siopau newydd eleni, a 20 o siopau dramor, gan gynnwys un ym Moston yn yr Unol Daleithiau.

Eu bwriad ydy denu mwy o bobl ifanc sydd newydd adael ysgol i’r busnes, ac maen nhw hefyd am ehangu eu cynllun prentisiaeth ar gyfer y digartref.