Daniel Bartlam
Mae bachgen 15 oed wedi ei gadw yn y ddalfa am 16 mlynedd ar ôl lladd ei fam â morthwyl.
Clywodd y llys ei fod wedi ei ysbrydoli gan un o blotiau opera sebon ITV, Coronation Street.
Roedd Daniel Bartlam wedi lladd ei fam Jacqueline ac yna wedi llosgi ei chorff.
Gwadodd ei fod wedi llofruddio ei fam ond cyfaddefodd i ddynladdiad.
Daeth dynion tân o hyd i gorff Jacqueline Bartlam, 47 yn ei chartref ar Georgia Drive, Redhill, Swydd Nottingham, yn ystod oriau mân y bore 25 Ebrill 2011.
Heddiw penderfynodd y barnwr yn Llys y Goron Nottingham codi’r gwaharddiad ar enwi’r bachgen.