Wrth nodi 30 mlynedd ers i filwyr yr Ariannin feddiannu ynysoedd y Falklands, mae David Cameron wedi dweud y bydd Prydain yn amddiffyn hawl y trigolion i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

Mewn datganiad y bore ‘ma talodd David Cameron deyrnged i filwyr Prydain a “hwyliodd i ryddhau ynysoedd y Falklands”.

Dywedodd mai bwriad Prydain oedd parhau i amddiffyn rhyddid yr ynyswyr.

“Mae Prydain yn hollol ymrwymedig i amddiffyn hawl ynyswyr y Falklands, ac ynyswyr y Falklands yn unig, i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain,” meddai.

“Dyna oedd yr egwyddor 30 mlynedd yn ôl, a dyna’r egwyddor rydym ni’n ei ail-ddatgan heddiw”.

Mae’n 30 mlynedd ers i fintai o filwyr Archentaidd gipio prif dref yr ynys, Port Stanley.

Dywedodd David Cameron y dylid cofio’r 649 o filwyr Archentaidd a fu farw, yn ogystal â’r 255 o luoedd arfog Prydain.

Mewn erthygl heddiw yn y Daily Telegraph mae Gweinidog Tramor Prydain, William Hague, yn “gresynu” bod yr Ariannin wedi troi eu golygon yn ôl at yr ynys yn ddiweddar.

“Dylwn ni atgoffa’r byd fod ynyswyr y Falklands, byth ers iddyn nhw gael eu rhyddhau, wedi ailadrodd eu dyhead diamod i gadw eu statws cyfansoddiadol a’u hunaniaeth genedlaethol, ac i fyw’n heddychlon gyda’u cymdogion yn America Ladin,” meddai.