Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn addo heddiw y bydd yn llywodraethu o blaid y wlad gyfan, “nid y lleiafrif cyfoethog yn unig”.

Fe fydd ei araith yn lansio ymgyrch y Blaid Lafur ar gyfer yr etholiadau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar 3 Mai.

Bydd arweinydd Llafur yn gobeithio codi ysbryd aelodau’r blaid yn dilyn cael eu trechu yn isetholiad Bradford West.

Serch hynny mae pôl piniwn YouGov ym mhapur newydd y Sunday Times yn dangos bod y Blaid Lafur naw pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr.

Wrth siarad yn Birmingham fe fydd Ed Miliband yn rhoi materion gan gynnwys trosedd a swyddi wrth galon ei ymgyrch, ac ymosod ar y Ceidwadwyr “sydd wedi colli cysylltiad â’r bobol”.

Fe fydd hefyd yn addo mynd i’r afael â fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Dyw’r Llywodraeth yma ddim yn gwrando ar y teuluoedd yn y canol sy’n gweithio’n galed er mwyn dod a dau ben llinyn ynghyd,” meddai yn ei araith.

“Dyw’r Llywodraeth ddim yn gwrando ar bensiynwyr sydd wedi gweithio’n galed drwy eu hoes. Na chwaith ar bobol ifanc sydd ddim yn gallu dod o hyd i swydd.

“Maen nhw wedi troi cefn ar yr ymhoniad eu bod nhw’n llywodraethu o blaid y wlad gyfan. Maen nhw’n gwrando ar y rheini sy’n rhoi miliynau i’r Blaid Geidwadol.”