Mi wnaeth bron i 500 o bobl fynychu angladd y ficer gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref ar ddydd San Ffolant heddiw.

Mi roedd y Parch John Suddards yn 59 oed, ac fe gynhaliwyd ei angladd yn yr Eglwys oedd yn ei gwasanaethu, Eglwys y Santes Fair yn Thornbury, De Swydd Caerloyw.

Roedd Esgob Caer Colun (Colchester) yn un o’r galarwyr. Dywedodd Michael Perham fod awyrgylch o ddathliad a gorfoledd yn yr angladd.

“Roedd ei gariad tuag at Dduw yn amlwg yn ei fywyd, yn y ffordd yr oedd yn gofalu am bobl ac yn addysgu pobl. Roedd yn offeiriad plwyf ardderchog,”meddai.

Mae Stephen Farrow, 47 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth Mr Suddards, ynghyd â llofruddiaeth Betty Yates, cyn athrawes 77 oed oedd yn byw yn Bewdley, Swydd Gaerwrangon.