Theresa May (llun o'i gwefan)
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi addo dros £18miliwn ar gyfer mynd i’r afael â throseddau cyllyll, drylliau a throseddau’n ymwneud â gangiau dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Theresa May hefyd wedi dweud y dylai unrhyw un sy’n cael eu dal â chyllell ddisgwyl mynd i’r carchar – ac y dylai unrhyw un sy’n eu cael yn euog o lofruddiaeth drwy ddefnyddio cyllell ddioddef 25 mlynedd yn y carchar.

Daw hyn wedi sylwadau am sut i fynd i’r afael â throseddau cyllyll gan y gyn-seren EastEnders, Brooke Kinsella – ar ôl i’w brawd 16 blwydd oed Ben gael ei drywanu i farwolaeth dair blynedd yn ôl.

Mae’r actores 27 mlwydd oed – a gafodd ei phenodi fel ymgynghorydd i’r llywodraeth ar y mater y llynedd – wedi galw am fwy o waith gyda phobl ifanc er mwyn eu hannog i beidio bod yn rhan o weithgarwch sy’n ymwneud â throseddau cyllyll.

Ar ôl canmol ymdrechion Brooke Kinsella – fe ddywedodd Theresa May y bydd y Llywodraeth yn “buddsoddi arian mewn newid ymddygiad ac agweddau.”

Mewn adroddiad gafodd ei lansio gan Brooke Kinsella i’r sefyllfa heddiw – fe ddywedodd ei bod yn credu fod troseddau sy’n ymwneud â chyllyll “wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf” a bod yr effaith mae’n ei gael ar gymunedau a theuluoedd yn “ofnadwy.”