Senedd yr Alban
Mae David Cameron yn ceisio “ymyrryd” gyda hawliau democrataidd pobol yr Alban drwy osod amodau ynglŷn â sut a phryd y dylid cynnal refferendwm ar annibyniaeth, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog yr Alban heddiw.

Yn ôl adroddiadau, mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried cynigion i roi’r hawl gyfreithiol i Senedd yr Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth ond ar sail cwestiwn Ia neu Na yn unig, a bod yn rhaid cynnal y refferendwm o fewn amser penodol, sef tua 18 mis.

Ar raglen BBC Andrew Marr dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai’n cyhoeddi cyngor cyfreithiol o fewn y dyddiau nesaf a fyddai’n datrys y mater mewn modd “teg, cyfreithiol a phendant.”

Ond wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod hyn yn “ymdrech i ymyrryd mewn penderfyniad a ddylai gael ei wneud gan Lywodraeth yr Alban”.

“Fe gawson ni ein hethol ar sail ein hymrwymiad i gynnal refferendwm yn ail hanner y tymor seneddol,” meddai.

“Fe ddylai penderfyniad am ddyfodol yr Alban gael ei wneud gan bobol yr Alban. Dyna beth yw democratiaeth.”

Dywedodd David Cameron nad oedd yn ceisio gorchymyn wrth yr Alban beth i’w wneud ynglŷn â’r refferendwm ond dywedodd bod yr ansicrwydd am ei dyfodol yn gwneud niwed i’r economi.

Yn ôl llefarydd ar ran Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, fe fyddai ymyrraeth gan Lywodraeth San Steffan yn rhoi hwb i’r ymgyrch am annibyniaeth.

Dywedodd: “Y mwyaf mae Llywodraeth San Steffan yn ymyrryd yn y broses, yna cryfhau fydd y gefnogaeth am annibyniaeth.”