Petrol
Fe wnaeth cwmni olew BP golled o fwy na £3 biliwn y llynedd ar ôl y trychineb ar lwyfan Deepwater Horizon yng Ngwlff Mecsico.

Dyma’r golled gynta’ i’r cwmni ers bron 20 mlynedd ac mae’n cymharu ag elw o fwy nag £8 biliwn yn 2009.

Erbyn hyn, mae’r cwmni’n dweud fod costau’r trychineb olew wedi codi i tua £25.5 biliwn ac roedd elw’r cwmni yn chwarter ola’ 2010 yn is na’r disgwyl.

Fe gyhoeddodd BP hefyd y byddan nhw’n gwerthu dwy burfa yng Ngogledd America.

Fe gafodd 11 o ddynion eu lladd pan ffrwydrodd y llwyfan drilio ac achosi’r trychineb llygredd olew mwya’ yn hanes yr Unol Daleithiau.