Cadarnhawyd heddiw fod corff Joanna Yeates wedi ei ryddhau i’w theulu er mwyn iddyn nhw ddechrau cynllunio ar gyfer ei hangladd.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal yr wythnos diwethaf gan batholegydd ar ran Vincent Tabak, clywodd Llys y Goron Bryste heddiw.

Dywedodd Michael Fitton, sy’n cynrychioli Vincent Tabak, fod Dr Nat Carey wedi cynnal yr archwiliad ddydd Mercher diwethaf.

“Gyda’i ganiatâd rydym ni wedi caniatáu i gorff yr ymadawedig gael ei ryddhau,” meddai Michael Fitton.

Ymddangosodd Vincent Tabak o flaen y llys drwy linc fideo o Garchar Long Lartin yn Swydd Worcester.

Pennwyd 4 Hydref yn ddyddiad dros dro ar gyfer yr achos llys.

“Fe fyddwch chi yn ymddangos o flaen llys eto ar 4 Mai,” meddai’r Barnwr wrth Vincent Tabak. “Bryd hynny fe fyddwch chi’n gweld beth yw manylion y cyhuddiadau yn eich erbyn chi.”

Doedd dim cais am fechnïaeth ac fe gafodd Vincent Tabak – cymydog drws nesaf Joanna Yeates – ei gadw yn y ddalfa.

Ymddangosodd Vincent Tabak o flaen llys am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf wedi ei gyhuddo o ladd y pensaer tirwedd 25 oed.

Diflannodd hi ar 17 Rhagfyr a daethpwyd o hyd i’w chorff ar Ddydd Nadolig, tair milltir o’i chartref.