Fe fu cynnydd sylweddol yn nifer y bobol sydd wedi cael triniaeth blastig yng ngwledydd Prydain.

Ond mae’r prif gorff proffesiynol yn y maes wedi rhybuddio rhag triniaethau diangen ac yn galw am gyfyngu ar hysbysebu triniaethau o’r fath.

• Yn ystod 2010, fe gafodd mwy na 38,000 o bobol driniaeth blastig yng ngwledydd Prydain gan aelodau o brif gymdeithas y llawfeddygon cosmetig – 5% yn fwy nag yn 2009.

• Ond mae cyfanswm y triniaethau’n llawer uwch na hynny eto ac, yn ôl y gymdeithas, mae rhai o’r rheiny’n ddiangen.

• Roedd y cynnydd mwya’ mewn triniaethau i leihau bronnau dynion – cynnydd o 28% – ond merched sy’n troi amlaf at y gyllell.

• Roedd bron 9,500 wedi cael triniaeth i wneud eu bronnau’n fwy – cynnydd o 10% – ond roedd yna ostyngiad mewn triniaethau i drin problemau sy’n gallu cael eu cuddio gan ddillad neu wallt.

Rhybudd y BAAPS

Roedd y ffigurau wedi’u cyhoeddi gan gymdeithas y llawfeddygol cosmetig – y BAAPS – sy’n gyfrifol am 40% o’r holl driniaethau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y  bod angen cyfyngu ar hysbysebion a oedd yn trin llawdriniaeth gosmetig fel “nwydd masnachol”.

Roedd hynny’n golygu bod llawer o bobol yn cael triniaeth ddiangen a oedd yn gallu effeithio arnyn nhw am weddill eu bywydau, meddai.

Llun: Llawdriniaeth ar y trwyn (James C Mutter)