Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan, dywedodd Keir Starmer fod y Prif Weinidog yn “arbenigwr” ar wneud tro pedol.
Daw hyn wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi y bydd plant ysgol yn Lloegr yn parhau i dderbyn cinio am ddim dros yr haf yn dilyn ymgyrch gan y pêl-droediwr Marcus Rashford, a hynny ar ôl i’r Llywodraeth fynnu droeon nad dyna fyddai’r achos.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddai plant yn parhau i dderbyn cinio am ddim
“Mae’r Llywodraeth wedi gwneud tri thro pedol yn y mis diwethaf,” meddai Syr Keir Starmer.
“Yn gyntaf, fe gawsom daliadau iechyd mewnfudo, yna’r dull pleidleisio i Aelodau Seneddol, a nawr tro pedol ar ginio ysgol am ddim.”
“Fandaliaid” Cofebau Rhyfel i gael eu dedfrydu
Hefyd, cadarnhaodd Boris Johnson ei fod yn archwilio cyfraith newydd i dargedu “fandaliaid” cofebau rhyfel.
Mae yno gryn dipyn o gefnogaeth ymysg Aelodau Seneddol Ceidwadol o blaid Deddf Difrodi Cofebau Rhyfel.
Eisoes, mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi datgan ei chefnogaeth, wedi i gofgolofn o’r masnachwr caethweision, Edward Colston gael ei daflu i’r cei.
“Bydd unrhyw fandaliaeth neu ymosodiad ar eiddo cyhoeddus yn cael ei gosbi gan y gyfraith a bydd troseddwyr yn cael eu dedfrydu,” meddai Boris Johnson.
“Gallaf hefyd gadarnhau ein bod yn edrych am ffurf newydd i ddeddfu yn erbyn difrodi cofebau rhyfel.”