Mae peilot o Awyrlu yr Unol Daleithiau ar goll ar ôl i’w awyren un-sedd blymio i Fôr y Gogledd oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Lloegr.

Trawodd yr US Air Force F15C Eagle o Suffolk y dŵr tua 9.40 y fore heddiw (dydd Llun, Mehefin 15) tra ar ymarfer hyfforddi.

Dywedodd Colonel Will Marshall, Cadlywydd yr adain, ei fod yn parhau i fod yn “obeithiol” y byddan nhw’n dod o hyd iddo.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi derbyn adroddiadau bod awyren wedi mynd i mewn i’r môr 74 milltir oddi ar arfordir Flamborough Head yn Swydd Efrog.

Mae gwaith chwilio ac achub yn mynd rhagddo, gyda hofrennydd Gwylwyr y Glannau a badau achub RNLI Bridlington a Scarborough yn cael eu hanfon i’r ardal.

Fe anfonodd Gwylwyr y Glannau ddarllediad ‘Mayday’ hefyd, gan arwain at longau eraill gerllaw i fynd yno.

Achos anhysbys

“Mae achos y ddamwain yn anhysbys ar hyn o bryd,” meddai Will Marshall.

“Mae ymdrechion chwilio ac achub ar y gweill ar hyn o bryd ond mae peilot yr awyren yn dal ar goll.

“Byddwn yn rhoi diweddariadau wrth iddyn nhw ddod ar gael gan roi blaenoriaeth i barch ac ystyriaeth o deulu’r peilot.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am ymateb amserol ein cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi’r ymdrechion adfer hyn ac rydym yn parhau’n obeithiol y byddwn yn dod o hyd iddo.”

Mae’r F15C yn fodel o jet sydd wedi cael ei ddefnyddio gan lu awyr yr Unol Daleithiau ers 1979.

Dywedodd uwch-Ffynhonnell yr RAF fod gan yr awyren “record diogelwch hedfan eithriadol”.

Yn ôl ei wefan, maes awyr RAF Lakenheath yw’r “ganolfan awyr fwyaf a weithredir gan yr Unol Daleithiau yn Lloegr a’r unig luoedd awyr yn Ewrop gyda F15 Wing fighter”.