Fe fydd Boris Johnson yn trafod gyda llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, heddiw (Mehefin 15) mewn ymdrech i ail-danio’r trafodaethau am gytundeb masnach ôl-Brexit.

Fe fyddan nhw’n cyfarfod drwy gyswllt fideo ar ôl i’r ddwy ochr gytuno i “ddwysau’r” trafodaethau wrth i’r cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd y flwyddyn agosáu.

Daw hyn ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd (UE) dderbyn yn ffurfiol ddydd Gwener na fyddai’r Deyrnas Unedig  yn ceisio ymestyn y cyfnod trosglwyddo, a fyddai’n caniatáu i Brydain gael mynediad at farchnad sengl yr UE tra bod y trafodaethau’n parhau.

Mae disgwyl i Boris Johnson ddweud bod angen i’r trafodaethau gael eu cwblhau erbyn yr Hydref er mwyn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a busnesau am y ffordd ymlaen.

Tra bod y Prif Weinidog wedi dweud bod y Deyrnas Unedig eisiau dod i gytundeb masnach rydd “uchelgeisiol” mae disgwyl iddo wneud yn glir y bydd yn barod i ddilyn rheolau Sefydliad Masnach y Byd o Ionawr 1 os nad ydyn nhw’n llwyddo i ddod i gytundeb.

Fe fydd y gweinidog yn swyddfa’r Cabinet Michael Gove a phrif negodwr y Deyrnas Unedig David Frost yn ymuno yn y trafodaethau.