Mae miloedd o siopau ar draws Lloegr yn ailagor eu drysau i gwsmeriaid am y tro cyntaf heddiw (Mehefin 15) ers bron i dri mis wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Mae parciau sw a pharciau saffari hefyd yn croesawu ymwelwyr yn ôl, gall addoldai agor ar gyfer gweddi breifat tra bydd rhai disgyblion ysgolion uwchradd yn dechrau dychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth.

Ar yr un pryd, bydd gofyn i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchuddion wyneb wrth i bethau ddechrau prysuro.

Siopau

Gyda ffigurau swyddogol yn dangos yr economi’n crebachu o un rhan o bump ym mis Ebrill, mae Gweinidogion yn awyddus i gael busnesau yn ôl ar eu traed er mwyn osgoi mwy o golledion swyddi.

Yn ôl y Canghellor Rishi Sunak, mae’n ystyried toriad Treth ar Werth (TAW) i ysgogi gwariant ar ôl cydnabod bod rhagor o ddiswyddiadau yn anochel wrth i gynllun ffyrlo y Llywodraeth ddechrau dod i ben.

“Mae amser caled i ddod. Mae pobl yn mynd i golli eu swyddi,” meddai.

Wrth i’r siopau ail agor heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod yn gobeithio y byddai pobl yn dychwelyd mewn niferoedd “synhwyrol”, a chadarnhaodd dros y penwythnos ei fod wedi gorchymyn adolygiad “cynhwysfawr” o’r rheol cadw pellter o ddau fetr.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y gostyngiad yn y niferoedd o achosion Covid-19 yn golygu bod mwy o hyblygrwydd fel bod y risg o ddod i gysylltiad â rhywun â’r clefyd yn lleihau.

Dywedodd Rishi Sunak y byddai’n cynnal arolwg “cyffredinol” o’r mater gan ddefnyddio cyngor gan economegwyr yn ogystal â’r arbenigwyr gwyddonol a meddygol sydd wedi bod yn cynghori Gweinidogion ar y pandemig.

Dywedodd mai Gweinidogion, nid y gwyddonwyr, fydd yn gwneud y penderfyniadau ar unrhyw lacio, gan sbarduno’r gred yn San Steffan bod y berthynas rhwng Gweinidogion a’r ymgynghorwyr yn dod yn fwyfwy anodd.

Mae’n debyg bod disgwyl i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 4.

Ysgolion

Yn ogystal, bydd ysgolion uwchradd yn Lloegr yn ailagor i rai disgyblion gyda myfyrwyr blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn dychwelyd i gael amser gyda’u hathrawon cyn eu harholiadau TGAU a safon uwch y flwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion cynradd yn Lloegr yn agored i ddisgyblion Dosbarth Derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 6.