Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd yn sefydlu comisiwn newydd i edrych ar “bob agwedd” o anghydraddoldeb hiliol yng ngwledydd Prydain.

Wrth ysgrifennu yn The Daily Telegraph, mae’r Prif Weinidog yn cydnabod bod gan wledydd Prydain lawer mwy i’w wneud i fynd i’r afael a’r mater.

Dywedodd y byddai’r comisiwn yn edrych ar “bob agwedd o anghydraddoldeb – mewn cyflogaeth, o ran iechyd, yn academaidd a phob rhan arall o fywyd.”

Daw’r cyhoeddiad wedi pythefnos o brotestiadau ar draws y wlad gan y mudiad Black Lives Matter yn dilyn marwolaeth y dyn du, George Floyd, yn yr Unol Daleithiau ar ôl i blismon bwyso ar ei wddf.

“Nawddoglyd”

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu cyhoeddiad Boris Johnson, sydd yn cynnwys ychydig iawn o fanylion. Dywedodd llefarydd cydraddoldeb y Democratiaid Rhyddfrydol Christine Jardine bod y comisiwn “yn gam cyntaf sydd i’w groesawu” ond bod angen i’r Llywodraeth fynd ymhellach.

Yn ôl llefarydd cydraddoldeb y Blaid Lafur, Marsha de Cordova, mae’r cyhoeddiad yn “nawddoglyd” o ystyried bod y pandemig coronafeirws wedi tanlinellu “anghydraddoldebau dwfn iawn oedd angen mynd i’r afael a nhw ers amser hir”.

Yn yr erthygl yn The Daily Telegraph fe fydd y comisiwn yn adrodd yn ôl yn uniongyrchol at Boris Johnson ac yn cael ei oruchwylio gan y Gweinidog Cydraddoldeb Kemi Badenoch.

Yn ôl y papur fe fydd cadeirydd annibynnol yn cael eu penodi i oruchwylio’r corff a fydd yn cynnwys “cyfuniad o bobl o gefndiroedd ethnig, cymdeithasol a phroffesiynol.”

Churchill

Roedd y Prif Weinidog hefyd wedi defnyddio ei erthygl i amddiffyn cofgolofn Winston Churchill yn Parliament Square yn Llundain ar ôl i rai protestwyr alw am dynnu’r cerflun i lawr.

Dywedodd mai Churchill oedd “un o’r arweinwyr gorau erioed” yng ngwledydd Prydain ac mae “ffolineb” fyddai ei gyhuddo o hiliaeth. Mae hefyd wedi beirniadu’r rhai sydd eisiau “gwyrdroi ein hanes”.