Mae mudiad Yes Kernow wedi cael ei sefydlu i alw am annibyniaeth i Gernyw.

Mae’r mudiad wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud eu bod nhw’n gobeithio cynnal gorymdeithiau Anserghogeth (annibyniaeth) y flwyddyn nesaf.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan fudiadau Yes Cymru a Yes Scotland.

Neges o groeso

“Croeso i @Yes_Kernow!” meddai neges ar y dudalen Twitter newydd.

“Ein cynllun yw gweld Kernow yn genedl annibynnol yn ôl ei hawl ei hun.

“Gobeithiwn ddenu digon o gefnogaeth i allu cynnal gorymdeithiau annibyniaeth yn 2021.

“Mae’n bryd i Kernow wrthod yr Undeb sy’n methu â’i chydnabod hithau.”

Mewn ail neges, sy’n arddangos baner Cernyw, mae’r mudiad yn diolch i’r mudiad yng Nghymru a’r Alban am eu cefnogaeth.

“Pan wnaethon ni fewngofnodi i’n cyfrif ddoe, fe wnaethon ni ei chael hi’n anodd dechrau hyn.

“Ond hoffem ddiolch i’n ffrindiau yn yr Alban a Chymru am helpu i gael peth momentwm!

“Gromerci! Gyda’ch cefnogaeth chi, bydd Kernow y genedl mae’n haeddu bod! #Anserghogeth