Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi annog arweinwyr y byd i uno yn y frwydr y erbyn afiechyd heddiw (dydd Iau, Mehefin 4).

Mewn cynhadledd ryngwladol ar brechlynnau, galwodd am godi £6 biliwn er mwyn imiwneiddio 300 miliwn o blant o fewn pum mlynedd.

Yng nghynhadledd y Gynghrair Brechlynnau Gavi, galwodd Mr Johnson am “ymdrech ar y cyd, y pwysicaf yn ein bywydau.”

Roedd 50 gwlad yn rhan o’r gynhadledd rithiwr ynghyd â Bill Gates, pennaeth Microsoft, sy’n cyfrannu tipyn o’i enillion at faterion fel hyn.

Os yw’r targed o £6 biliwn yn cael ei gyflawni, y gobaith yw y bydd 300 miliwn o blant yng ngwledydd tlotaf y byd yn derbyn brechlyn yn erbyn polio, diphtheria a measles erbyn 2025.

Gan agor y gynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog: “Rwyf yn gobeithio mai’r gynhadledd yma fydd y foment mae’r byd yn dod at ei gilydd i uno dynoliaeth yn y frwydr yn erbyn afiechyd.”

Maent yn gobeithio y bydd ddarparu brechlyn i blant yn erbyn yr afiechydon yma yn lliniaru’r pwysau ychwanegol sydd a’r systemau iechyd y byd yn sgil pandemig y coronaferiws.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi pledio £1.65 o gyllid i Gavi dros y bum mlynedd nesaf.