Roedd rhai protestwyr wedi gwrthdaro â’r heddlu wedi i filoedd o bobol orymdeithio drwy ganol Llundain ddoe (Mehefin 3) mewn protest Black Lives Matter mewn ymateb i farwolaeth George Floyd.

Fe fu protestwyr yn cynnal protest heddychlon cyn i densiynau godi tu allan i Stryd Downing yn ddiweddarach neithiwr.

Dywed yr heddlu eu bod wedi arestio 13 o bobl yn ystod y protestio, aeth ymlaen tan oriau mân y bore.

“Arswydo”

Bu farw George Floyd, dyn croenddu, wrth i heddwas wasgu ar ei wddf â’i ben-glin ar Fai 25, gan sbarduno dyddiau o brotestio ar draws yr Unol Daleithiau.

Dywed y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod wedi’i “ffieiddio” wrth weld beth ddigwyddodd i George Floyd.

Tra bod penaethiaid heddlu ar draws y Deyrnas Unedig wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn dweud eu bod yn “sefyll mewn undod gyda phobol ar draws y byd sydd wedi eu harswydo.”

Mae clipiau fideo ar gyfryngau cymdeithasol wedi dangos protestwyr a’r heddlu yn gwrthdaro tu allan i Stryd Downing.

Mae mudiad Black Lives Matter yn y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i godi mwy na £270,000 ar lein, gyda’r arian i gyd yn mynd tuag at “gefnogi bywydau pobol groenddu yn erbyn hiliaeth sefydliadol.”