Mae Boris Johnson wedi rhybuddio y bydd “nifer o swyddi’n cael eu colli” wrth i ragor o fanylion am effaith economaidd y pandemig coronafeirws gael eu datgelu.

Daw’r rhybudd wrth i nifer y marwolaethau yn sgil y coronafeirws gynyddu i fwy na 50,000.

Mae’r Prif Weinidog wedi mynnu ei fod yn “falch iawn” o’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi delio gyda’r pandemig ers gwaetha nifer y marwolaethau a’i gyfaddefiad bod nifer fawr o ddiswyddiadau yn “anochel”.

Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn ceisio cefnogi’r economi cymaint â phosib wrth i’r cyfyngiadau ddechrau gael eu llacio.

Mae disgwyl i bwyllgor busnes Tŷ’r Cyffredin glywed rhagor heddiw (dydd Iau, Mehefin 4) am effaith y coronafeirws ar fusnesau a gweithwyr, tra bydd Banc Lloegr yn cyhoeddi rhestr o gwmnïau sy’n parhau i gael cymorth ariannol drwy eu cynllun benthyg.

Mae disgwyl hefyd i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) amlinellu eu hasesiad diweddaraf o’r niwed economaidd sydd wedi’i achosi gan y firws.

Mae busnesau wedi benthyg mwy na £30 biliwn o dan gynlluniau benthyg y Llywodraeth tra bod 8.7 miliwn o weithwyr ar ffyrlo.