Mae disgwyl i tua 1,500 o swyddi gyda gwerthwr ceir Lookers ddiflannu wrth iddyn nhw gau 12 o’u safleoedd gwerthu ceir.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri costau yn sgil argyfwng y coronafeirws a marchnad geir heriol.

Fe fydd Lookers yn dechrau ymgynghori gyda staff ynglŷn â diswyddiadau. Mae ganddyn nhw weithlu o 8,100.

Roedd Lookers eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau ym mis Tachwedd y llynedd i gau 15 o’u safleoedd gwerthu ceir ac fe fyddan nhw nawr yn cau 12 ychwanegol.

Yn ôl Lookers fe fydd y camau yma yn arbed tua £50m y flwyddyn.

Mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw wedi wynebu marchnad “heriol” a bod gwerthiant ceir hefyd wedi gwaethygu yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, a materion mewnol yn ymwneud a thwyll posib o fewn y busnes ym mis Mawrth.