Agorodd y Prif Weinidog sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Mehefin 3) drwy ddweud ei fod yn “falch iawn” o ymateb ei Lywodraeth i bandemig y coronaferiws.

Galwodd am “fwy o gydweithio” gan y blaid Lafur a gwrthododd honiad arweinydd y blaid Lafur, Keir Starmer, nad yw system profi ac olrhain y Llywodraeth yn hollol weithredol eto.

Ond rhybuddiodd Mr Starmer fod defnydd Boris Johnson o ystadegau yn gwneud niwed i ymddiriaeth y cyhoedd yn ei Lywodraeth.

Aeth ymlaen i honni fod y Prif Weinidog yn “cymysgu craffu ag ymosodiadau”.

Dywedodd: “Rwyf wedi cefnogi’r Llywodraeth yn agored ac wedi cael fy marnu am hynny, ond wir i chi, mae ef wedi ei gwneud hi’n anodd cefnogi’r Llywodraeth dros y bythefnos ddiwethaf.”

Cyhuddo’r Boris Johnson o wrthod help gan y blaid Lafur

Cyhuddodd Mr Starmer y Prif Weinidog o beidio ymateb i’w gynnig o help wrth geisio cael plant yn ôl i’r ysgol.

Keir Starmer
Keir Starmer

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol ei fod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog bythefnos yn ôl gan ei fod yn credu fod angen “arweiniant a chonsensws” wrth geisio annog disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol.

“Ond chafodd y cynnig hwnnw ddim ei dderbyn,” meddai Keir Starmer wrth y siambr.

Mae plant ar draws Lloegr wedi bod yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon, gydag ymateb cymysg ar draws y wlad.

Wfftio cwynion fod Aelodau Seneddol wedi gorfod ciwio i bleidleisio

Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio cwynion fod Aelodau Seneddol wedi gorfod ciwio am gilomedr er mwyn pleidleisio.

Daw hyn wedi beirniadaeth fod Aelodau Seneddol ag anabledd neu gyfrifoldeb gofalu wedi cael eu heithrio rhag pleidleisio.

Ddydd Llun (Mehefin 1), cyflwynodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, gynnig oedd yn atal pleidleisio rhithiwr rhag ailddechrau.

Roedd yno olygfeydd anhrefnus yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth (Mehefin 2) wrth i Aelodau Seneddol giwio am gannoedd o fetrau er mwyn gallu pleidleisio, gydag adroddiadau y bu i un aelod lewygu.

Dywedodd Syr Keir Starmer fod y peth yn “gywilyddus” gan alw ar y Prif Weinidog i roi terfyn ar y broses “hollol ddiangen ac annerbyniol”, a chaniatáu pleidleisio rhithiwr i ailddechrau.

“Dwi ddim y meddwl ei bod hi’n annerbyniol ein bod ni’n gofyn i Aelodau Seneddol ddychwelyd yma a gwneud eu swyddi dros bobol y wlad hon,” oedd ymateb Boris Johnson.