Yn ystod y sesiwn Cwestiynau Cymreig yn Senedd San Steffan, cyhuddodd Aelod Seneddol yr SNP, Alison Thewliss, Lywodraeth y Deyrnas Unedig o danseilio’r dull pedair gwlad o weithio.

Dywed fod “dau benderfyniad unochrog” – ar ganllawiau cysgodi a niferoedd myfyrwyr mewn prifysgolion – wedi cael ei wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf “heb ymgynghori na rhybuddio” Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban.

“Sut felly all Llywodraeth y Deyrnas Unedig honni ei fod yn parchu’r dull pedair gwlad?”

Wrth ymateb, dywed gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Davies fod “lot fawr o ymgynghori” wedi bod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â niferoedd myfyrwyr mewn prifysgolion.

Aeth ymlaen i ddweud fod cysgodi yn fater datganoledig ac na fyddai Alison Thewliss “yn disgwyl i ni sathru ar hyd datganoli.”