Mae prawf wedi cael ei lansio i asesu a oes modd atal cleifion coronafeirws rhag cael problemau anadlu difrifol gan ddefnyddio ibuprofen.
Dywed arbenigwyr eu bod yn awyddus i wybod a yw’r cyffur yn gallu lleihau effeithiau’r feirws.
Maen nhw’n gobeithio y gallai’r cyffur gael ei ddosbarthu ymysg cleifion mewn ysbytai, gan leihau salwch anadlu.
Gallai hyn arwain at bobol yn aros mewn ysbytai am lai o amser yn ogystal â lleihau nifer y bobol sy’n gorfod cael triniaeth mewn unedau gofal dwys.
‘Arbrawf’
“Mae hwn yn arbrawf ar gyfer dioddefwyr sydd â Covid-19 i weld os yw rhoi cyffur gwrthlidiol iddyn nhw, sef math o ibuprofeb, yn lleihau’r problemau anadlau sydd ganddyn nhw,” meddai Mitul Mehta, cyfarwyddwr Canolfan Therapiwteg Arloesol yn King’s College, Llundain.
Pwysleisia fod yr arbrawf ar gyfer cleifion yn yr ysbyty, nid pobol sydd â symptomau ysgafn.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis o bobol sydd yn yr ysbyty, ond sydd heb fod mewn unedau gofal dwys.
“Gydag amser, dylai’r driniaeth hwn fod o fudd,” meddai Mitul Mehta.