Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn wynebu gwrthryfel o fewn y Blaid Geidwadol yn sgil cynlluniau i orfodi aelodau seneddol i fynd i San Steffan i bleidleisio yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Ddoe (dydd Llun, Mehefin 1), bu arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, yn cyflwyno cynnig fydd yn atal pleidleisio rhithiwr rhag ailddechrau.

Os bydd y Tŷ yn cymeradwyo’r cynllun heddiw (ddydd Mawrth, Mehefin 2), mae posibilrwydd y bydd Aelodau Seneddol yn gorfod ffurfio ciw cilomedr o hyd i bleidleisio er mwyn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Mae aelodau seneddol wedi gallu dewis rhwng mynychu’r Senedd neu gyfrannu ar-lein yn ystod y pandemig coronafeirws, ond mae’r Llywodraeth yn bwriadu dod â hyn i derfyn.

Mae cadeirydd y pwyllgor dethol addysg wedi cyhuddo Jacob Rees-Mogg o fihafio fel arlywydd Brazil Jair Bolsonaro, sydd wedi peryglu pobol y wlad drwy wfftio pryderon coronafeirws.

Gwrthwynebiad

“Mae yno Aelodau Seneddol sydd ddim yn gallu mynychu, mae ein hawliau democrataidd yn cael eu cymryd oddi wrthym ac rydym yn cael ein troi i mewn i eunuchiaid seneddol,” meddai Robert Halfon.

Dywed yr SNP eu bod yn gwrthwynebu’r “Senedd llinell conga”, gydag aelodau seneddol Albanaidd ac eraill sy’n cynrychioli etholaethau ymhell o San Steffan yn wynebu sialens i deithio i’r Senedd.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi annog gweinidogion i gyflwyno cynllun sy’n “cadw at egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol.”

‘Newidiadau angenrheidiol’ 

Dywed Jacob Rees-Mogg ei fod yn bwriadu cyflwyno mesurau i ganiatáu i aelodau seneddol chwarae rôl gyfyngedig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n mynnu bod y newidiadau yn angenrheidiol gan fod deddfwriaeth “yn araf” yn sgil y pandemig coronafeirws.

“Ni fyddwn yn gallu cyflawni ein maniffesto os nad yw’r Senedd yn dychwelyd,” meddai.

Mae’r Blaid Lafur a gweddill y gwrthbleidiau mewn undod wrth wrthwynebu’r cynlluniau, sydd yn “fygythiad i gynrychiolaeth a chydraddoldeb gwleidyddol” yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin Syr Lindsay Hoyle wedi cael ei orfodi i greu cynlluniau i ganiatáu Aelodau Seneddol i bleidleisio ar y cynnig heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 2) ond wedi galw ar y Llywodraeth a’r blaid Lafur i gytuno ar gyfaddawd saff.