Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i orfodi Aelodau Seneddol i fynd i San Steffan i bleidleisio yn ystod yr argyfwng coronafeirws y “tu hwnt i ffars,” yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

Heddiw (dydd Llun, Mehefin 1), bydd arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, yn cyflwyno cynnig fydd yn atal pleidleisio rhithiwr rhag ailddechrau.

Os bydd y Tŷ yn cymeradwyo’r cynllun ddydd Mawrth (Mehefin 2), mae posibilrwydd y bydd Aelodau Seneddol yn gorfod ffurfio ciw cilomedr o hyd i bleidleisio er mwyn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

“Os yw hyn yn digwydd, mae’r peth tu hwnt i ffars,” meddai’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

“Mae’n annerbyniol cyflwyno hyn pan mae yno opsiwn saff, diogel a chyflym yn bodoli: pleidleisio o bell/rhithiwr.

“Mae Aelodau Seneddol eisoes yn ei ddefnyddio, ac mae’n gweithio.”

Bydd cynnig y Llywodraeth yn mynnu fod Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn San Steffan ac yn cadw at ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Yna, byddai manylion y system bleidleisio yn cael ei drefnu gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle.

Mae ef wedi disgrifio ciw o Aelodau Seneddol yn symud drwy’r Senedd fel “ciw archfarchnad” fydd yn mynd drwy ganol y siambr.