Fe fydd yn rhaid i Nazanin Zaghari-Ratcliffe aros i glywed a fydd hi’n cael dod adref o’r ddalfa yn Iran, yn ôl ei gŵr.
Roedd disgwyl iddi glywed heddiw (dydd Sadwrn, Mai 30) ar ôl i’r penderfyniad gael ei ohirio ddydd Mercher (Mai 27).
Ond mae hi wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddi aros tan yr wythnos nesaf am benderfyniad terfynol, yn ôl ei gŵr Richard.
“Ffoniodd Nazanin swyddfa’r erlynydd ond doedd dim newyddion, a dywedwyd wrthi am ffonio eto’r wythnos nesaf,” meddai wrth Sky News.
“Yn amlwg does dim penderfyniad felly byddwn ni’n cysylltu eto’r wythnos nesaf â swyddfa’r erlynydd i weld a oes newyddion.”
Isel ei hysbryd
Yn ôl Richard Ratcliffe, mae ei wraig “yn eithaf isel ei hysbryd” ac mae’n dweud iddyn nhw gael sgwrs ffôn “ddigalon” yn dilyn y newyddion.
Ond mae’n dweud bod y teulu’n “obeithiol” o’i chael hi adref yn fuan.
Bu dan glo yn Tehran ers 2016, ar ôl iddi gael ei harestio mewn maes awyr wrth iddi fynd â’i merch fach Gabriella i ymweld â’i rhieni.
Cafodd ei charcharu am bum mlynedd ar ôl cael ei chyhuddo o gynllwyn i symud llywodraeth Iran o’u swyddi.
Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad.
Cafodd hi warchodaeth ddiplomyddol gan Lywodraeth Prydain yn ddiweddarach, sy’n dadlau ei bod hi’n ddieuog a bod Iran wedi methu â chadw at gyfraith ryngwladol.
Fe fu Boris Johnson, prif weinidog Prydain, dan y lach ar ôl awgrymu ei bod hi wedi teithio i Iran yn rhinwedd ei gwaith academaidd fel athrawes newyddiaduraeth.