Er gwaetha’r Covid a’r cyfnod clo mae Ciwpid wedi cadw yn brysur, yn ôl arolwg barn diweddar.

Trwy ddefnyddio eu hapiau a’u cyfrifiaduron mae pobol sengl yn mynd ar bedwar dêt rhithwir pob wythnos, yn ôl PRPioneer.com.

Mae dynion wedi bod yn mynd ar bump dêt yr wythnos, tra bo’r merched wedi cadw at bedwar.

Cafodd 3,700 o bobol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon eu holi gan y cwmni cysylltiadau cyhoeddus.

Partïon rhithwir

Mae’r arolwg barn hefyd yn dangos:

  • bod pobol yn cymryd rhan mewn tri pharti rhithwir yr wythnos;
  • ond mae’r ffigwr yn amrywio o chwe pharti yn Llundain, i ddim ond dau yng Nghymru;
  • bod pobol yn yfed 4.5 diod mewn parti, ar gyfartaledd;
  • bod 10% yn profi pen mawr (hangover) yn amlach dan y cyfnod clo.