Efallai fod Dominic Cummings wedi torri’r rheolau cloi ychydig wrth yrru i dref Barnard Castle, ond ni fydd yn wynebu unrhyw weithredu pellach, yn ôl Heddlu.

Cyhoeddodd Heddlu Durham ddatganiad ynghylch penderfyniad prif gynghorydd y Prif Weinidog i deithio i’r sir, gan ddweud nad oedd lleoli ei hun ar ystâd ei dad yn cael ei ystyried yn drosedd.

Ond aeth yr heddlu ymlaen: “Mae Heddlu Durham wedi archwilio’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r daith i Barnard Castle […] ac wedi dod i’r casgliad y gallai’r rheoliadau fod wedi cael eu torri ychydig – ac y byddai hynny wedi gwarantu ymyrraeth gan yr heddlu.

“Mae Heddlu Durham yn ystyried hyn yn [fater bach] oherwydd nad oedd unrhyw achos o dorri’r rheolau ymbellhau cymdeithasol.

“Pe bai swyddog Heddlu Durham wedi stopio Mr Cummings yn gyrru i neu o Barnard Castle, byddai’r swyddog wedi siarad ag ef, ac, ar ôl canfod y ffeithiau, byddai, mwy na thebyg, wedi cynghori Mr Cummings i ddychwelyd i’r cyfeiriad yn Durham, gan roi cyngor ar beryglon teithio yn ystod argyfwng y pandemig.

“Pe bai Mr Cummings wedi derbyn y cyngor hwn, ni fyddai unrhyw gamau gorfodi wedi’u cymryd.”

Ymateb 10 Stryd Downing

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd llefarydd ar ran 10 Stryd Downing: “Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn credu bod Mr Cummings wedi ymddwyn yn rhesymol ac yn gyfreithlon o ystyried yr holl amgylchiadau, ac mae o’r farn bod y mater hwn wedi’i gloi.”

Ond dywedodd aelodau seneddol o’r gwrthbleidiau fod y ffaith bod yr heddlu’n credu y gallai Mr Cummings fod wedi torri’r rheolau yn dangos bod y cyhoedd yn iawn i fod yn ddig.

Ymateb y Gwrthbleidiau

Dywedodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, ar Twitter: “Mae bellach y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod Dominic Cummings wedi torri rheolau cloi i lawr. Nid oes gan @BorisJohnson ddewis ond ei ddiswyddo. Mater o onestrwydd y Prif Weinidog ei hun yw hyn bellach – a’i gyfrifoldeb pennaf i amddiffyn iechyd y cyhoedd ac ymddiriedaeth yn ei Lywodraeth. ”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, fod Boris Johnson wedi dangos ei fod yn wan wrth ymdrin â sefyllfa Dominic Cummings.

Mewn clip ar the World At One ar BBC Radio 4, dywedodd Mr Starmer: “Y peth pwysicaf yma yw nid, wyddoch chi, y materion technegol hyn… y broblem yw drwy beidio ag ymdrin â Cummings mewn ffordd gref, mae’r Prif Weinidog nid yn unig wedi dangos ei hun yn wan – ac mae wedi dangos ei hun yn wan – mae mor desbret i gadw’r cynghorydd hwn, bydd yn glynu ato trwy bopeth.

“Yn bwysicach, be’ dw i’n poeni amdano yw y gallai pobl feddwl ‘Wel, os nad oes rhaid i Cummings ddilyn y rheolau, pam mae’n rhaid i mi?’

“Yna, rydych chi ar lethr llithrig.”