Fe fydd pobl sy’n dod i gysylltiad agos a rhywun sy’n dioddef o’r coronafeirws yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod wrth i Lywodraeth Prydain lansio ei system dilyn ac olrhain.

Fe fydd system dilyn ac olrhain y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn dechrau yn Lloegr a’r Alban heddiw (dydd Iau, Mai 28) ac yng Nghymru wythnos nesaf.

Y gobaith yw y bydd y system yn arwain at lacio’r cyfyngiadau.

Fel rhan o’r cynllun bydd modd olrhain cysylltiadau rhywun sydd wedi’u heintio a’r coronafeirws er mwyn atal y firws rhag lledaenu a rheoli cynnydd yn nifer yr achosion yn lleol.

O dan y cynlluniau fe fydd unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws yn gorfod hunan-ynysu a bwcio i gael prawf mewn canolfan brofi neu bydd prawf yn cael ei anfon i’w cartrefi. Fe fydd pawb sy’n byw yn yr un tŷ hefyd yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Os yw’r prawf yn negyddol fe fydd pawb yn cael rhoi’r gorau i hunan-ynysu.

Ond os yw’r prawf yn bositif fe fydd swyddogion olrhain y GIG neu dimau iechyd cyhoeddus yn ffonio, anfon e-bost neu neges destun yn gofyn iddyn nhw rannu manylion y bobl maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw a’r llefydd maen nhw wedi ymweld.

Fe fydd y timau wedyn yn cysylltu â’r cysylltiadau agos gan ddweud bod yn rhaid iddyn nhw aros adref am 14 diwrnod hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau, er mwyn osgoi lledaenu’r firws.

Ond yn ôl rhai adroddiadau gan Sky News, dyw systemau sylfaenol rhai o’r staff olrhain ddim yn weithredol eto, ond mae’r Adran Iechyd yn mynnu bod “cyfran helaeth ein 25,000 o staff wedi cwblhau eu hyfforddiant.”