Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi addo siarad â’r Trysorlys ynglŷn â’r posibilrwydd o adolygu a gohirio dirwyon i deuluoedd sy’n teithio am resymau gofal plant yn ystod y gwarchae’r coronafeirws.
Fe wnaeth yr addewid yn ystod cynhadledd i’r wasg yn Stryd Downing neithiwr (nos Fawrth, Mai 26).
Cafodd y gynhadledd ei dominyddu gan gwestiynau ynglyn ag ymgynghorydd y Prif Weinidog Dominic Cummings, wnaeth deithio o Lundain i Durham gyda’i wraig a’i blentyn er gwaethaf y gwarchae.
Dywedodd Matt Hancock, oedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r cyhoedd, y byddai’n darparu “ateb llawn” ysgrifenedig cyn addo gwneud cyhoeddiad mewn cynhadledd i’r wasg yn y dyfodol.
Y cwestiwn
“A fydd y Llywodraeth yn adolygu dirwyon i deuluoedd sy’n teithio am resymau gofal plant yn ystod y gwarchae?” holodd y Parchedig Martin Poole o Brighton.
“Mae hwn yn gwestiwn da ac rwyf yn deall yr angen i sicrhau gofal plant digonol,” meddai Matt Hancock wrth ateb.
“Bydd yn rhaid imi siarad â fy nghydweithwyr yn y Trysorlys cyn gallu ei ateb yn llawn.”
“Doedd hwnna ddim yn llawer o ateb nag oedd?” meddai’r Parchedig Martin Poole ar ôl y gynhadledd.
“Rwyf yn deall na fyddai gan Matt Hancock y wybodaeth ar flaen ei fysedd ac rwyf yn gobeithio ei fod yn edrych i mewn i’r peth ac yn dychwelyd ag ateb.”