Mae Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y Prif Weinidog Boris Johnson, wedi “gwatwar” cynlluniau gofal iechyd wrth deithio o Lundain i Durham gyda’i deulu yn ystod y gwarchae, yn ôl arbenigwyr.

Dywed Yr Athro Jackie Cassell o Ysgol Feddygol Brighton a Sussex fod y rheolau yn hynod glir na ddylai pobol adael dinasoedd a theithio i ail gartrefi mewn ardaloedd gwledig.

Mae hyn oherwydd y gallai ysbytai yn yr ardaloedd hyn gael trafferth ymdopi os yw pobol yn dod â’r feirws o rannau eraill o’r wlad, meddai.

Ac mae Dr Michael Head, uwch ymchwilydd ym Mhrifysgol Southampton, wedi dweud bod Dominic Cummings wedi “gwatwar” cynlluniau gofal iechyd.

Daw ei sylwadau wedi i Dominic Cummings geisio amddiffyn ei benderfyniad i ddreifio i Durham er gwaethaf rheolau’r gwarchae, gan ddweud ei fod yn credu iddo fihafio’n “rhesymol” ac nad yw’n difaru’r daith.

Gwrthododd Dominic Cummings ymddiheuro ond roedd yn cydnabod y “gallai pobol anghytuno ynglŷn â sut nes i feddwl am beth i’w wneud yn yr amgylchiadau”.

‘Siomedig’

Dywed Jackie Cassell ei bod hi’n “siomedig” fod gohebwyr heb ofyn i Dominic Cummings am y faich mae pobol yn teithio i’w hail gartrefi’n ei hachosi i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Yn ystod y gwarchae, ac am nifer o fisoedd i ddod, mae’n rhaid i ni gyd warchod y Gwasanaeth Iechyd rhag pobol yn dioddef o Covid-19 yn eu hail gartrefi,” meddai.

“Gallai’r Gwasanaeth Iechyd fethu ag ymdopi mewn llefydd â phoblogaeth lai.”