Bydd plant a phobl hŷn yn rhan o ail ran o dreialon brechlyn coronaferiws.
Dechreuodd rhan gyntaf treial Prifysgol Rhydychen fis Ebrill, pan gafodd 1,000 o bobl bigiad.
Nawr bydd dros 10,200 o bobl, gan gynnwys pobl dros 70 oed a phlant rhwng pump a 12 oed yn cael eu cynnwys i weld sut effaith mae’r brechlyn yn cael ar eu himiwnedd.
Mae treialon o’r un brechlyn yn edrych fel petai wedi rhoi gwarchodaeth rhag y feirws i fwncïod.
Dywed gwyddonwyr eu bod yn anelu at gael o leiaf miliwn dos o’r brechlyn coronafeirws erbyn mis Medi.
Ond mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn darogan y bydd hi’n cymryd rhwng 12 a 18 mis i ddatblygu a chynhyrchu brechlyn.
Bydd yr oedolion yn derbyn dau ddos o un ai ChAdOx1 nCoV-19 – neu frechlyn arall.
Gwirfoddolwyr o Gymru
Mae’n rhaid i wyddonwyr weld os yw’r brechlyn sy’n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen yn gweithio meddai’r arbenigwr sy’n arwain yr ymdrech i recriwtio gwirfoddolwyr yng Nghymru.
Maent yn ceisio cael 10,000 o bobl i gymryd rhan yn y treial, gyda 500 ohonynt o Gymru.
“Rydym angen recriwtio pobl sy’n fwy agored i risg o ddod i gysylltiad â’r feriws,” meddai Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Sioe Frecwast BBC Radio Wales.
“Rydym angen pobl sy’n weithgar yn y gymuned ac sy’n agored i risg o gael eu heintio – [rydym am-] ei brofi mewn pobl sydd ddim wedi eu heintio, ond sydd â risg o gael eu heintio.”
Bydd y bobl sy’n rhan o’r treial naill ai yn derbyn brechlyn coronafeirws, neu yn derbyn brechlyn meningitis, ond fyddan nhw ddim yn gwybod pa un.