Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi cael rhybudd bod amser yn “brin” cyn i’r Llywodraeth lansio ei chynllun profi ac olrhain os yw’r wlad am osgoi ail don o’r coronaferiws.

Ddydd Mercher (Mai 20) addawodd y Prif Weinidog Boris Johnson y bydd gan y Deyrnas Unedig 25,000 o brofion olrhain erbyn Mehefin 1.

Ond mae Niall Dickson, prif weithredwr Cydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cynrychioli sefydliadau ar draws y sector gofal iechyd, wedi ysgrifennu at Matt Hancock oherwydd fod ei aelodau’n “ofidus” ynglŷn â diffyg strategaeth glir.

“Byddwn yn eich annog i gyflwyno strategaeth sydd â chynllun gweithredu clir cyn llacio’r cyfyngiadau ymhellach,” meddai Niall Dickson yn ei lythyr.

‘Problemau diogelwch’ gyda ap olrhain

Mae ymchwilwyr wedi darganfod nifer o broblemau diogelwch yn yr ap olrhain y coronafeirws.

Mae’r Ganolfan Diogelwch Seiber Cenedlaethol, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r ap, yn ymwybodol o’r problemau.

Dywed ei fod yn y broses o’u datrys.

Mae ymchwilwyr hefyd wedi rhybuddio bod angen sicrhau bod preifatrwydd personol pobl ar yr ap yn cael ei warchod.

Dywed y dylai data sy’n gysylltiedig â’r ap gael ei warchod gan ddeddfwriaeth “rhag defnydd gan yr heddlu, neu unrhyw ddefnydd sydd ddim yn ymwneud a’r coronafeirws.”