Bydd EasyJet yn ail-ddechrau hediadau o nifer o feysydd awyr ym Mhrydain o Fehefin 15 ymlaen.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ei fod yn ail-ddechrau hediadau rhwng 22 maes awyr Ewropeaidd.

Yn y Deyrnas Unedig mae rhain yn cynnwys Gatwick, Bryste, Birmingham, Lerpwl, Newcastle, Caeredin, Glasgow, Inverness a Belfast.

Fel rhan o fesurau hylendid newydd, bydd yn rhaid i deithwyr a’r criw wisgo masgiau ar awyrennau.

Ni fydd bwyd yn cael ei weini yn ystod hediadau, bydd yr awyrennau’n cael eu glanhau’n drylwyr, a bydd cadachau diheintio ar gael i deithwyr.

Mae Ryanair yn bwriadu ail-ddechrau 40% o’u hediadau o Orffennaf 1, tra bod British Airways yn bwriadu ail-ddechrau yr un mis.

“Rwyf yn falch iawn ein bod yn ail-ddechrau hedfan erbyn canol mis Mehefin,” meddai prif weithredwr EasyJet Johan Lundgren.

“Mae’r rhain yn gamau bychan sydd wedi eu cynllunio’n ofalus ac rydym yn eu cymryd i ail-ddechrau gweithredu’n raddol.”