Mae undebau’n cyhuddo cwmnïau awyr o fanteisio ar y coronafeirws er mwyn torri swyddi.

Mae Brian Strutton, ysgrifennydd cyffredinol undeb Balpa, wedi dweud wrth aelodau seneddol fod cwmnïau’n “manteisio ar yr argyfwng”.

Ymhlith y cwmnïau sy’n ceisio torri swyddi mae British Airways, Ryanair a Virgin Atlantic.

Yn ôl IAG, perchnogion British Airways, does dim disgwyl i’r galw am deithiau awyr gynyddu eto tan 2023.

Yn ôl maes awyr Gatwick, fe allai gymryd hyd at 2024 i adfer y sefyllfa.

‘Gorddweud y broblem’

“Dw i’n credu bod cwmnïau awyr yn gorddweud y broblem,” meddai Brian Strutton wrth bwyllgor trafnidiaeth San Steffan.

“Dydy’r rhagolygon sydd gan rai o benaethiaid y cwmnïau awyr o adfer o fewn pump i chwech o flynyddoedd, ddim yn unol â rhagolygon safonau’r diwydiant.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Iata (y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol), sydd fel arfer yn faen prawf ar gyfer y pethau hyn, gyhoeddi ei ragolygon newydd, gan ddweud y bydden ni’n ôl i lefelau 2019 erbyn diwedd 2022.

“Rydyn ni ar drai ar hyn o bryd, a byddwn ni’n dod allan o fewn dwy flynedd a hanner, a dw i’n credu bod cwmnïau’n manteisio ar y sefyllfa’n ormodol er mwyn manteisio ar yr argyfwng i wneud newidiadau a lleihau eu gweithlu’n ddiangen.”