Mae manylion naw miliwn o deithwyr easyJet wedi cael eu caffael gan hacwyr – ynghyd â manylion cardiau credyd 2,208 o gwsmeriaid.
Enwau, cyfeiriadau e-bost, cyrchfannau teithiau a dyddiadau teithio’r rhan fwyaf o bobol oedd wedi cael eu datgelu i’r hacwyr.
Dywed y cwmni yn Luton nad oes tystiolaeth fod unrhyw fanylion wedi cael eu camddefnyddio yn dilyn yr ymosodiad seibr.
Mae easyJet wedi dechrau cysylltu â chwsmeriaid ac maen nhw’n addo rhoi gwybod i bawb yn unigol erbyn Mai 26.
Dydy hi ddim yn glir pryd ddigwyddodd yr ymosodiad.
Mae easyJet wedi ymddiheuro am y sefyllfa.
Cyngor
Yn ôl cwmni cwsmeriaid Which?, mae’n bwysig fod pobol sy’n poeni y gallen nhw fod wedi cael eu heffeithio’n newid eu cyfrinair ar wefan easyJet a gwefannau eraill lle mae’r un cyfrinair yn cael ei ddefnyddio.
Dylai pobol hefyd gadw llygad barcud ar eu cyfrifon banc a’u hadroddiadau credyd, a bod yn wyliadwrus o e-byst sy’n ymddangos yn ffug ar wefannau cymdeithasol.
Nid dyma’r tro cyntaf i gwmi awyr gael ei dargedu’n ddiweddar.
Y llynedd, fe ddaeth i’r amlwg fod British Airways wedi cael dirwy o £183m ar ôl i fanylion mwy na hanner miliwn o gwsmeriaid gael eu hacio mewn digwyddiad oedd wedi dechrau ym mis Mehefin 2018.