Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i farwolaethau mewn cartrefi gofal yn sgil adroddiadau bod gweinidogion yn gwybod fis yn ôl y byddai gweithwyr dros dro yn helpu i ledaenu’r feirws.

Heddiw (dydd Mawrth, Mai 19), bydd penaethiaid gofal yn ymddangos gerbron Aelodau Seneddol San Steffan i roi tystiolaeth ar sut mae cartrefi gofal a’u staff yn ymdopi â’r pandemig.

Daw hyn ar ôl i’r Guardian honni bod adroddiad Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi darganfod fod gweithwyr wnaeth ledaenu’r coronafeirws mewn chwe chartref gofal wedi cael eu dewis i weithio yn lle staff oedd yn hunanynysu.

Dywed y papur fod yr adroddiad wedi cael ei gynnal dros benwythnos y Pasg rhwng Ebrill 11 a 13.

Mae’n debyg bod dros 22,000 o bobol wedi marw mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr, gyda Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn dweud bod yna “epidemig ofnadwy wedi bod mewn cartrefi gofal”.

Wrth i nifer y marwolaethau yn y Deyrnas Unedig basio 41,500 ddoe (dydd Llun, Mai 18), honnodd adroddiad gan Ddarparwyr GIG fod cleifion coronafeirws wedi cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal yn fwriadol ac yn systematig er mwyn gwneud gwlâu ar gael.

Arian

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth “Gronfa Rheoli Haint” gwerth £600 miliwn i leihau effaith y feirws mewn cartrefi gofal.

Daeth yr arian yma, oedd yn rhannol ar gyfer talu costau staff ychwanegol cartrefi gofal, gydag amod fod rheolwyr yn sicrhau fod gweithwyr ddim ond yn gweithio mewn un cartref.

Fodd bynnag, doedd y cyngor gwreiddiol a gafodd ei roi i ddarparwyr gofal cymdeithasol ddim yn nodi bod angen cyfyngu ar symudiadau staff.

Bydd pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin yn cwestiynu nifer o arbenigwyr a phenaethiaid o’r sector gofal.

“Rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod cartrefi gofal ac ein gweithlu gofal cymdeithasol yn derbyn y gefnogaeth maent ei angen i warchod eu preswylwyr a thaclo’r coronafeirws,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Mae ein help i gartrefi gofal, sy’n cynnwys cefnogaeth ariannol, hyfforddiant rheoli haint a chyflenwadau cyfarpar diogelu personol wedi golygu fod dau draean o gartrefi gofal Lloegr heb ddioddef o’r feirws o gwbl.”