Fe fydd hi’n cymryd misoedd i wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) ailgychwyn yn dilyn y pandemig coronafeirws, mae arweinwyr iechyd wedi rhybuddio.

Bydd arbenigwyr iechyd yn dweud Aelodau Seneddol heddiw (Dydd Iau, Mai 14) am yr heriau sy’n wynebu’r  GIG  wrth geisio dychwelyd i normalrwydd.

Mewn cyflwyniad ar y cyd i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, dywed y Sefydliad Iechyd, Cronfa’r Brenin ac Ymddiriedolaeth Nuffield na ddylai’r Llywodraeth danamcangyfrif effaith y pandemig ar staff y Gwasanaeth Iechyd.

Rhybuddiodd y sefydliadau fod angen mwy o gyfarpar diogelu personol (PPE) wrth i wasanaethau arferol ail-ddechrau.

Bydd angen mwy o le er mwyn i gleifion a staff allu ymbellhau’n gymdeithasol yn ogystal â chynnal mwy o brofion, meddai.

Bydd y ffactorau yma yn ogystal ag amser ychwanegol ar gyfer glanhau offer a chyfleusterau yn “cyfyngu capasiti am nifer o fisoedd nes bod yr haint o dan reolaeth yn y gymuned,” meddai’r sefydliadau.

Dywed y grwpiau fod y pandemig wedi amlygu “gwendidau oedd eisoes yn bodoli” megis tanfuddsoddi tymor hir mewn gwasanaethau iechyd a gofal yn ogystal â system ofal “ansicr.”

“Gyda’r feirws yn dal yn ei anterth does dim ffordd hawdd i fynd yn ôl i sut oedd pethau yn y Gwasanaeth Iechyd o’r blaen, ac yn anffodus mae hynna’n golygu bod pobl yn disgwyl llawer iawn hirach a rhai gwasanaethau’n cael eu gohirio,” meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Nuffield, Nigel Edwards.

“Bydd yn rhaid i ysbytai yn o gystal â detholiad o wasanaethau cymunedol gael eu hail drefnu i reoli’r haint a chadw pobl yn saff, gan wahanu cleifion coronafeirws a chynnal profion yn gyson a chyflym ar bob lefel.

“Mae’n rhaid i ni fod yn onest fod hyn am arafu pethau.”