Mae swyddog tocynnau rheilffordd wedi marw ar ôl i deithiwr boeri arni tra’r oedd hi’n gweithio.

Roedd Belly Mujinga, 47, yn gweithio yng ngorsaf Victoria yn Llundain ar Fawrth 22 pan ddaeth aelod o’r cyhoedd, oedd yn honni bod ganddo’r coronafeirws, ati hi a’i chydweithiwr a pheswch a phoeri arnynt.

Roedd y ddwy ddynes yn sâl gyda’r coronafeirws o fewn dyddiau ar ôl yr ymosodiad.

Cafodd Belly Mujinga, oedd yn fam i ferch 11 oed, ei chludo i Ysbyty Barnet a’i rhoi ar beiriant anadlu ond bu farw ar Ebrill 5.

Mae ei gŵr, Lusamba Gode Katalay, wedi disgrifio sut y daeth dyn at Belly Mujinga a phoeri yn ei hwyneb.

“Daeth dyn ati hi a gofyn beth oedd hi’n ei wneud, pam roedd hi yno, a dywedodd hi fod hi a’i chydweithiwr yn gweithio,” meddai Lusamba Gode Katalay.

“Dywedodd y dyn fod ganddo’r feirws cyn poeri arnynt. Daeth Belly adref a dweud popeth wrtha i.”

Teyrnged

O fewn wythnos i’r digwyddiad, roedd Belly Mujinga yn sâl a chafodd ei chludo i’r ysbyty ar Ebrill 2.

“Dyna’r tro olaf imi ei gweld hi,” meddai Lusamba Gode Katalay.

“Roedd hi’n berson da, yn fam dda ac yn wraig dda.”

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain bellach yn ymchwilio i’r digwyddiad.

“Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi lansio ymchwiliad i adroddiad o boeri ar ddau aelod o staff wrth weithio yng ngorsaf Victoria yn Llundain ar Fawrth 22,” meddai llefarydd.