Mae cynghorydd lleol wedi beirniadu staff cartref gofal yn ardal Manceinion am gynnal parti i ddathlu Diwrnod VE i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Fe fydd rhaid i breswyliaid y cartref gofal yn Oldham gael profion coronafeirws ar ôl i’r staff gael eu gweld mewn fideo yn dawnsio ar gadeiriau ac yn gwthio cadeiriau olwyn o amgylch y gegin ac ystafell arall.

Doedd dim preswyliaid yn bresennol pan gafodd y digwyddiad ei ffilmio, ond mae’r staff wedi cael eu gwahardd ac fe fydd proses glanhau drylwyr yn gorfod digwydd.

Mae’r cyngor hefyd yn adolygu’r camau sydd wedi’u cymryd yno i atal ymlediad y feirws.

‘Cwbl annerbyniol’

“Mae lansio ein gweithdrefnau diogelu ar unwaith yn dangos i chi pa mor ddifrifol rydyn ni’n trin hyn,” meddai’r cynghorydd Zahid Chauhan.

“Mae’r golygfeydd sydd i’w gweld mewn deunydd fideo’n gwbl annerbyniol.

“Mae ein ffocws ar ddiogelwch yr holl breswyliaid a sicrhau bod y gofal sy’n cael ei ddarparu yn y cartref o’r safon uchaf posib.”