Mae un o’r gwyddonwyr sy’n cynghori Llywodraeth Prydain ar y coronafeirws yn poeni y gallai pobol ddechrau cymdeithasu eto ar ôl neges Boris Johnson heno (nos Sul, Mai 10).

Mae disgwyl i brif weinidog Prydain ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn dilyn cyhoeddiad heno ond yn ôl yr Athro Susan Michie, gallai pobol fynd mor bell â dechrau cymdeithasu eto.

Yn lle’r neges arferol o “aros gartref”, fe fydd Llywodraeth Prydain yn annog pobol yn Lloegr i “fod yn wyliadwrus”.

Yn sgil y newid posib, mae llywodraethau Cymru a’r Alban yn pwysleisio mai yn Lloegr yn unig y bydd y rheolau newydd mewn grym ac nad oedd Boris Johnson wedi cynghori â nhw cyn newid y drefn yn Lloegr.

Ac mae’r Athro Susan Michie yn dweud bod neges Boris Johnson a’i lywodraeth “ymhell” o fod yn glir, wrth iddo annog pobol i “aros gartref cymaint â phosib” ac i “gyfyngu ar gyswllt â phobol eraill”.

Ymddygiad y cyhoedd

Yn ôl yr Athro Susan Michie, fe allai’r newid yn neges Boris Johnson ddylanwadu’n fawr ar ymddygiad y cyhoedd.

“Fe allai gollwng y neges ‘arhoswch gartref’ o’r prif slogan a’i newid i fod yn wyliadwrus gael ei dderbyn gan rai fel golau gwyrdd i beidio ag aros gartref a dechrau cymdeithasu gyda ffrindiau a gwneud gweithgareddau eraill sy’n cynyddu’r risg o ymlediad,” meddai.

“Gallai hyn, o bosib, danseilio gwaith da’r wythnosau diwethaf sydd wedi gweld lefelau uchel da o ufudd-dod gan y cyhoedd mewn amgylchiadau sy’n heriol i rai.”

Mae’n rhybuddio y gallai amrywio gormod ar y drefn bresennol fod yn “niweidiol iawn”, ac y gallai’r neges wreiddiol “fynd yn angof”.