Mae’r Blaid Lafur yn beirniadu negeseuon Llywodraeth Prydain i’r wasg am y cynnydd yn nifer y bobol sy’n torri rheolau cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae mwy o bobol wedi bod yn mynd allan dros y dyddiau diwethaf yn sgil yr awgrym y bydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn llacio’r rheolau mewn cyhoeddiad heno (nos Sul, Mai 10).

Ond mae Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn dweud y byddai’r llywodraeth yn “ofalus dros ben” wrth gyflwyno unrhyw newidiadau.

‘Rhwystredigaeth’

Yn ôl Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur yn San Steffan, mae rhai o benawdau’r papurau newydd dros y dyddiau diwethaf wedi ychwanegu at y dryswch.

“Y rhwystredigaeth yw ein bod ni wedi cael negeseuon gwahanol i wahanol bapurau newydd drwy gydol yr wythnos,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Dw i’n credu bod rhai o’r negeseuon hynny i’r papurau newydd wedi arwain at y sefyllfa ddoe a dydd Gwener lle’r oedd llawer o bobol yn mynd allan i barciau i fwynhau’r heulwen.

“Rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn traffig ar y ffyrdd ac rydyn ni wedi gweld mwy o alwadau i Wylwyr y Glannau nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y gwarchae.

“Mae’r gwarchae rydyn ni ynddo bellach ers saith wythnos wedi cyfrannu at dderbyniadau i ysbytai’n cwympo a’r gyfradd farwolaethau’n gostwng, a byddech chi’n gobeithio ac yn disgwyl fod hynny’n deyrnged i’r cyhoedd Prydeinig sydd wedi dilyn y cyngor i aros gartref.”