Mae’r Swyddfa Dramor yn euog o “fethiannau anfaddeuol” yn eu hymateb i farwolaeth Harry Dunn, yn ôl ei rieni.
Cafodd y dyn 19 oed ei ladd pan gafodd ei feic ei daro gan gar ger safle milwrol yr Unol Daleithiau yn Swydd Northampton ar Awst 27 y llynedd.
Fe wnaeth Anne Sacoolas, gwraig diplomydd, hawlio imiwnedd diplomyddol a dychwelyd i’r Unol Daleithiau er mwyn osgoi achos cyfreithiol.
Ond cafodd ei chyhuddo fis Rhagfyr o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, er i gais y Swyddfa Gartref i’w hestraddodi gael ei wrthod gan Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau.
Ymateb Lisa Nandy
Mae Tim Dunn a Charlotte Charles, rhieni Harry Dunn, yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy “calonogol” yn dilyn cyfarfod rhithwir â Lisa Nandy, llefarydd materion tramor Llafur.
Mae hithau’n dweud bod y cyfarfod “yn eiliad na fydda i fyth yn ei anghofio”.
Mae’n dweud bod yr achos “eisoes yn dangos llu o fethiannau anfaddeuol” gan Lywodraeth Prydain.
Ac mae hi wedi mynegi ei siom ynghylch dogfen sydd wedi’i rhyddhau i’r wasg yn dangos amwysedd ynghylch amserlen y llywodraeth o’r hyn oedd wedi digwydd.
“Dydy cofnod yr Ysgrifennydd Tramor o sut roedd y person a gafodd ei chyhuddo’n ddiweddarach o achosi marwolaeth Harry wedi gallu gadael y wlad, hyd yn oed pan oedd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ceisio ei herlyn, jyst ddim yn taro deuddeg.
“Heb fawr o ddewis, mae teulu Harry wedi troi at y llysoedd am gymorth.
“Tra bod y Llywodraeth yn gwneud popeth i’w trechu nhw, mae yna obaith o hyd y bydd dyfarniad fis nesaf yn gorfodi gweinidogion, o’r diwedd, i fod yn onest am y camgymeriadau gafodd eu gwneud, a dechrau gwneud yn iawn am hynny.”
Ymateb Tim Dunn a Charlotte Charles
“Roedd Lisa wir yn hyfryd ac yn anhygoel gyda ni,” meddai Tim Dunn a Charlotte Charles.
“Wnaeth hi roi digon o le ac amser i ni ddweud wrthi sut rydyn ni’n teimlo a pha mor annheg yw’r cyfan.
“Roedd colli ein mab yn ddigon o ergyd, ond mae cael ein hamddifadu a’n camdrin gan Lywodraeth Prydain fel sydd wedi digwydd i ni, wrth iddyn nhw ein sgubo ni o dan y carped, yn annynol.
“Wnawn ni ddim gadael i deulu arall fynd drwy’r hyn aethon ni drwyddi.”