Dywed Prif Weinidog Cymru ei fod yn disgwyl y bydd pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn gweithredu’n debyg iawn i’w gilydd wrth lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.
Roedd eisoes wedi cyhoeddi ddoe y bydd y cyfyngiadau’n parhau am dair wythnos arall yng Nghymru, gyda mân addasiadau, ac fe fydd Boris Johnson yn cyhoeddi yfory beth yw’r cynlluniau ar gyfer Lloegr.
Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast y bore yma, dywedodd Mark Drakeford fod yr addasiadau i fesurau Cymru yn “fach iawn ond yn ystyrlon”.
“Rydym wedi cyhoeddi beth fyddwn ni’n ei wneud ond rydym wedi dweud hefyd na fyddwn ni’n cyflwyno’r newidiadau tan ddydd Llun, fel bod y Deyrnas Unedig yn symud ymlaen gyda’i gilydd i’r cyfnod nesaf,” meddai.
“Mater i’r Prif Weinidog fydd penderfynu beth sy’n digwydd yn Lloegr, ond mae ei lefarydd wedi dweud y bydd yn ochelgar wrth godi’r cyfyngiadau, ac yn canolbwyntio ar effeithiau unrhyw newidiadau ar iechyd y cyhoedd.”
Dywedodd ei fod yn credu y bydd y newidiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu hadlewyrchu yn Lloegr.
“Mae’n anochel fod yn rhaid inni addasu cyfyngiadau yn ôl gwahanol amgylchiadau gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, ond dw i’n meddwl y byddwn ni’n symud ymlaen yn yr un ffordd sylfaenol,” meddai.
Gwylio’n fanwl
Dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru’n gwylio’n fanwl iawn effaith y newidiadau bach i’r cyfyngiadau yng Nghymru.
“Os na fydd y mesurau hyn yn arwain at gynnydd yng nghylchrediad y coronafeirws, yna byddwn yn edrych a oes unrhyw gamau pellach y gallwn ni eu cymryd, ond byddwn bod amser yn cymryd y camau hynny o safbwynt iechyd cyhoeddus.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud dim byd yng Nghymru sy’n peryglu’r ymdrechion anferthol mae pawb wedi eu gwneud arafu lledaeniad y coronafeirws.”
Dywedodd y bydd y rheoliadau ar ymarfer corff yn cynnwys y gair ‘lleol’ er mwyn sicrhau nad yw pobl yn ymarfer y tu allan i’w hardal.
“Nid yw’n wahoddiad i bobl fynd yn eu ceir a gyrru pellteroedd mawr i ymarfer yn rhywle arall,” meddai.