Dywed Prif Weinidog yr Alban ei bod yn rhagweld mai cymharol fach fydd y gwahaniaethau rhwng gwledydd Prydain a’i gilydd wrth iddyn nhw lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon mai’r unig newid a fydd yn digwydd yn yr Alban o’r wythnos nesaf ymlaen fydd caniatáu i bobl adael eu tŷ i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd.

Yn wahanol i gyhoeddiad Mark Drakeford ar gyfer Cymru, nid yw’n cynnwys cynlluniau i ailagor llyfrgelloedd, canolfannau garddio a chanolfannau ailgylchu.

Mae ei chyhoeddiad yn dilyn trafodaethau rhwng prif weinidogion y tair llywodraeth ddatganoledig a Boris Johnson ddoe.

“Roedd cydnabyddiaeth adeiladol gan Boris Johnson y gallai pedair gwlad Prydain symud ar raddfa wahanol os yw ein data am ledaeniad y feirws yn dweud bod angen gwneud hynny,” meddai.

Ychwanegodd ei bod yn disgwyl mai ‘cymharol fach’ fyddai’r gwahaniaeth rhwng y pedair gwlad.

“Fyddwn i ddim yn rhagweld amrywio mawr yn fuan, os bydd yr hyn dw i’n ei glywed gan Lywodraeth Prydain ar hyn o bryd yn cael ei wireddu,” meddai.

Ychwanegodd y bydd y gwaith cynllunio a chyflwyno negeseuon yn dal i gael ei gydgordio.

Pryder Llywodraeth yr Alban yw bod ei data yn awgrymu bod y gyfradd atgynhyrchu – y gyfradd R – yn uwch yn yr Alban nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yr amcangyfrif yw ei fod rhwng 0.7 ac 1.0 yn yr Alban o gymharu â rhwng 0.5 a 0.9 yn y Deyrnas Unedig fel cyfanrwydd.