Rhaid i Boris Johnson gydweithio â’r llywodraethau datganoledig wrth lacio mesurau covid-19, yn ôl gwleidydd o’r Alban.

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig  yn gwneud datganiad ar y mater ddydd Sul, ac mi fydd yn ystyried adolygu’r cyfyngiadau mewn cyfarfod heddiw (Dydd Iau, Mai 7).

Ar drothwy’r cyfarfod hwnnw, ac wrth siarad â BBC Radio Scotland, mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi cynnig gair o gyngor.

“Yn bennaf, rhaid i’r Prif Weinidog gydweithio â’r holl lywodraethau, yma yn yr Alban ac yng Nghymru a Gogledd Iwerddon hefyd,” meddai.

“Dylai fod yn gonsensws y gallwn ei adeiladu gyda’r pedair cenedl yn cydweithio. A dylai fod wedi ei selio ar gyngor meddygol a gwyddonol.”

Codi’r cyfyngiadau?

Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yr hawl i adolygu’r mesurau sut y mynnant, ac mae ansicrwydd ynghylch a fyddan nhw’n dilyn camau San Steffan.

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud nad yw’n gwybod beth fydd Boris Johnson yn ei gyhoeddi dros y penwythnos.

Ond beth bynnag a ddaw, mae wedi awgrymu na fydd llawer o newid yn i’r mesurau yn yr Alban.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi bod yn annelwig o ran ei safiad yntau ar y mater, ac mae wedi cyfleu awydd i ddilyn – yn ogystal â pheidio â dilyn – pwy bynnag gamau a ddaw yn Lloegr.